|
Comisiwn y Senedd |
|
Lleoliad: |
Lleoliad Allanol |
|
||||
|
Dyddiad: |
Dydd Gwener, 25 Hydref 2024 |
|
||||
|
Amser: |
12.45 |
|
||||
|
|
||||||
|
|
||||||
|
Cofnodion: SC(6)2024(7) |
||||||
|
|
|
|
||||
|
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Y Gw. Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd) Hefin David AS Janet Finch-Saunders AS Adam Price AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|
||||
|
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Leanne Baker, Prif Swyddog Pobl dros dro Simon Hart, Pennaeth dros dro y Gwasanaethau Ariannol Nicholas Morgan, Comisiwn y Senedd Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd
|
||||
|
|
|
|||||
|
|
|
|
||||
|
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.b Datgan buddiant
Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunodd y Comisiynwyr ar Gofnodion y cyfarfod ar 23 Medi.
2 Cyllideb 2025-26 Comisiwn y Senedd
Rhoddodd y Comisiynydd sydd â phortffolio’r gyllideb a llywodraethiant ddiweddariad ar gynnydd Cyllideb 2025-26 Comisiwn y Senedd yn dilyn gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 3 Hydref.
Cynigiodd y Comisiynydd ymatebion i bob un o argymhellion y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ar 22 Hydref. Cytunodd y Comisiynwyr ar gynnwys eu hymateb i'r adroddiad.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr hefyd Gyllideb Derfynol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2025-26, heb y cyllid ychwanegol o £0.456m y gofynnwyd amdano drwy Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024-25, a gytunwyd gan y Senedd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 22 Hydref.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai gwaith meincnodi pellach, manylach o ran strwythurau gyda chyrff cymheiriaid yn cael eu cynnal maes o law, ar adeg pan na fyddai'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth waith Diwygio'r Senedd neu baratoadau etholiadol a phan fyddai 'cyflwr sefydlog' ar y sefydliad staffio wedi'i chyflawni mewn perthynas â chefnogi Senedd fwy.
Tynnodd un Comisiynydd sylw at safbwynt barhaus eu grŵp o wrthwynebu Diwygio'r Senedd a'r costau cysylltiedig.
Byddai dogfen y Gyllideb Derfynol ar gyfer 2025-26 yn cael ei gosod ar 13 Tachwedd 2024 gyda’r Cynnig Cyllidebol i gael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Tachwedd 2024.
3 Ffyrdd o Weithio - Tŷ Hywel
Cafodd y Comisiynwyr grynodeb o’r gwaith diweddar ar brosiect Tŷ Hywel 26 a thrafodwyd opsiynau terfynol ar gyfer creu’r 36 o swyddfeydd Aelodau newydd yn adeilad Tŷ Hywel, er mwyn galluogi caffael ar gyfer y prosiect a dechrau’r gwaith yn y flwyddyn ariannol bresennol.
Nododd y Comisiynwyr y gwaith a'r ymgysylltu a wnaed hyd yma. Codwyd nifer o bwyntiau ganddynt i gefnogi bod y ddarpariaeth yn ddigon hyblyg i ddarparu ar gyfer anghenion fel hygyrchedd corfforol, i gefnogi niwroamrywiaeth, ac i ddarparu amrywiaeth o gynigion i ddiwallu anghenion Aelodau'r dyfodol. Cytunwyd ar yr opsiynau a argymhellir ar gyfer creu
4 Materion y Seithfed Senedd
Trafododd y Comisiynwyr y ddau argymhelliad a wnaed i’r Comisiwn yn Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Biliau Diwygio ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol).
Er bod y Bil wedi'i dynnu'n ôl gan y Llywodraeth, nid oedd y materion yn y ddau argymhelliad a wnaed i'r Comisiwn yn dibynnu ar gynnydd y Bil.
Trafododd y Comisiynwyr eu hymateb, a chytunwyd i dderbyn argymhelliad 21, a darparu rhagor o wybodaeth am sut y byddai hyn yn cael ei wneud.
Cytunwyd hefyd i dderbyn argymhelliad 20 i gynnal archwiliad sy’n sensitif i rywedd. Cytunodd y Comisiynwyr i amlinellu i’r Pwyllgor y rhoddir ystyriaeth, yn awr, i benderfynu ar gwmpas yr archwiliad, a’r dull gorau posibl o’i gyflawni, ynghyd ag adnoddau cysylltiedig, er mwyn sicrhau y byddai canlyniadau’r archwiliad ar gael mewn da bryd i lywio penderfyniadau ar brosiect Bae Caerdydd 2032, a phenderfyniadau i’w gwneud gan y Seithfed Senedd am ei ffyrdd o weithio.
Cytunodd y Comisiynwyr y byddai Joyce Watson yn arwain ar y gwaith hwn, gan gynnwys y gwaith cwmpasu cychwynnol, ac y byddai'n dychwelyd at y Comisiwn gyda chynigion ar gyfer cwmpas a’r dull gorau posibl o gyflawni.
5 Papurau i'w nodi:
5.a Llythyr y Swyddfa Gartref ynghylch: Bil Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) – 12 Medi 2024
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Gweinidog Diogelwch at y Llywydd ynghylch darpariaethau’r Bil Terfysgaeth (Diogelu Mangreoedd) mewn perthynas â’r Senedd.
5.b Nodyn ar feincnodi absenoldeb salwch
Nododd y Comisiynwyr y data a gwybodaeth am absenoldeb salwch yn dilyn eu cais am ddadansoddiad pellach a meincnodi.
5.c Diweddariad y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau RAD)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb o benderfyniadau diweddar o ran recriwtio.
5.d Nodiadau Cyfarfod Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ar 26 Medi
Nododd y Comisiynwyr grynodeb o gyfarfod Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ar 26 Medi.
5.e Nodyn diweddaru Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ar gyfer Gorffennaf 2024
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad a ddarparwyd i aelodau Grŵp Cyswllt Pleidiau’r Senedd ym mis Gorffennaf.
5.f Llythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd ymgynghoriad ar rannu swydd cadeirydd pwyllgor
Nododd y Comisiynwyr lythyr gan y Pwyllgor Busnes, dyddiedig 22 Hydref, yn gwahodd gwybodaeth am unrhyw oblygiadau i adnoddau’n ymwneud â chynigion ar gyfer rhannu swydd cadeirydd pwyllgor, a chytunwyd i dderbyn ymateb drafft y tu allan i'r cyfarfod.
6 Unrhyw fater arall
Recriwtio i’r Bwrdd Taliadau - Rhoddwyd diweddariad byr i'r Comisiwn ar y cynlluniau ar gyfer y recriwtio angenrheidiol i'r Bwrdd Taliadau Annibynnol.
Senedd y Dyfodol - Gofynnodd un Comisiynydd am gwmpas y gwaith a fyddai'n cael ei wneud gan Bwyllgor Senedd y Dyfodol sydd newydd ei sefydlu. Cytunodd y Llywydd i ofyn am wybodaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor.
Cyflwynwyd papur i’r Comisiynwyr yn ymwneud â mater staffio, ym mhresenoldeb y swyddogion canlynol: Matthew Richards, Leanne Baker a Simon Hart. Derbyniodd y Comisiynwyr yr argymhelliad a nodwyd yn y papur.
Yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf roedd y Comisiynwyr wedi cytuno ar addasiadau terfynol i lythyr gan Hefin David AS at y Pwyllgor Cyllid, dyddiedig 27 Medi 2024, er mwyn egluro bod cynnwys y llythyr yn cynnwys yr ymateb i Argymhelliad 2 o adroddiad y Pwyllgor o'r flwyddyn flaenorol.